Llywelyn ap Gruffudd
11 views | +0 today
Follow
Your new post is loading...
Your new post is loading...
Scooped by Luke Crowe
Scoop.it!

Aberffraw- Llys Rhosyr

Aberffraw- Llys Rhosyr | Llywelyn ap Gruffudd | Scoop.it

Mae llys Rhosyr wedi ei leoli yn Aberffraw, yn Ynys Môn. Roedd yn un o lysoedd Llywelyn ap Gruffudd. Dim ond chwarter o'r llys sydd wedi cael ei gloddio gan archeolegwyr, gyda gobaith y bydd arian ar gael ymhen dipyn i gloddio gweddill y llys. Cafodd llys Rhosyr ei esguleuso ar ôl goresgyniad Gwynedd gan Edward y 1af o Loegr yn y flwyddyn 1282. 

more...
No comment yet.
Scooped by Luke Crowe
Scoop.it!

Llysoedd Llywelyn

Adeiladodd Llywelyn ap Gruffudd llawer o lysoedd o amgylch Gogledd Cymru. Y llysoedd mwyaf enwog oedd Llys Aberffraw a Llys Abergwyngregyn. Y cestyll mwyaf enwog yw Castell Dolbadarn a Castell Dolwyddelan. Cafodd Castell Dolbadarn ei hadeiladu yn y flwyddyn 1230 gan Llywelyn ap Iorweth, taid Llywelyn ein Llyw Olaf. Mae Castell Dolbadarn wedi ei lleoli yng nghanol mynyddoedd Eryri. Roedd y lleoliad strategol y castell yn golygu ei fod yn medru gwrthsefyll unrhyw ymosodiad trwy Fwlch Peris. Roedd y llysoedd a'r cestyll yma mewn llinell ar hyd Gogledd Cymru. 

more...
No comment yet.
Scooped by Luke Crowe
Scoop.it!

Castell Dolwyddelan

Castell Dolwyddelan | Llywelyn ap Gruffudd | Scoop.it

Roedd Castell Dolwyddelan ynghyd a Castell Dolbadarn yn ffurfio casgliad o gadarnleoedd allweddol yng Ngogledd Cymru. Roedd lleoliad y cestyll yn strategol bwysig i lywodraethwyr Cymru. Dim ond olion sydd ar ôl nawr o'r tŵr yn nghastell Dolwyddelan.

more...
No comment yet.
Scooped by Luke Crowe
Scoop.it!

Llinach Llywelyn ap Gruffudd

Roedd Llywelyn ap Gruffudd yn ran o linach tywysogion Gwynedd. Roedd yn wyr i Llywelyn ap Iorwerth, neu Llywelyn Fawr. Roedd Llywelyn Fawr yn un o ddisgynyddion Owain Gwynedd. Tad Llywelyn ap Gruffuddd oedd Gruffudd ap Llywelyn Fawr, ac roedd yn un o bedwar plentyn. Cafodd Llywelyn ap Gruffudd ei enwi yn Llywelyn yr Ail oherwydd fo oedd yr ail Llywelyn, ar ol ei daid.

more...
No comment yet.