Boddi Tryweryn
1.1K views | +0 today
Follow
Boddi Tryweryn
Hanes boddi Capel Celyn a Cwm Tryweryn
Curated by Luke Crowe
Your new post is loading...
Your new post is loading...
Scooped by Luke Crowe
Scoop.it!

Ar ol boddi Tryweryn

Ar ol boddi Tryweryn | Boddi Tryweryn | Scoop.it
Roedd rhaid i bob un o 70 trigolion y pentref symud i fyw. Cafodd rhai o'r beddau eu codi a'u symud i rhywle arall. Cafodd y pentref ei chwalu ac yna ei foddi. Cymerodd adeg o 1964 i 1965 i foddi'r cwm. Mae ffilmiau a rhaglenni teledu wedi cael eu gwneud i adrodd y stori a be wnaeth ddigwydd e.e y Weithred gan Meic Povey. Mae llawer iawn o bobl wedi peintio arwyddion ac ar gerrig yn dweud 'Cofiwch Dryweryn'. Yn mis Hydref 2005 fe wnaeth dinas Lerpwl ymddiheuro am eu gweithrediad ac yn dweud eu bod yn sylweddoli y niwed a ddigwyddodd i bobl 40 mlynedd yn ol pan cafodd Cwm Tryweryn ei droi yn gronfa ddwr er mwyn Lerpwl. Mae'n mynd ymlaen i ddweud fod cyngor Lerpwl yn gobeithio fod y berthynas rhwng Leprwl a Cymru ar ei ffordd i gael ei drwsio.


http://www.youtube.com/watch?v=OHPSvEGsIdA
more...
No comment yet.
Scooped by Luke Crowe
Scoop.it!

Lerpwl

Lerpwl | Boddi Tryweryn | Scoop.it
Roedd gan Lerpwl prinder dwr enfawr ar ol yr Ail Ryfel Byd.
Roedd rhaid iddynt gael dwr o rhywle a penderfynwyd boddi dyffrynnoeedd Cymreig er mwyn cael y dwr. Penderfynodd cyngor Lerpwl foddi Dyffryn Fyrnwy ac yna Cwm Tryweryn. Pan glywodd drigolion Cwm Tryweryn, roedden nhw'n gandryll. Fe aeth Gwynfor Evans, Dafydd Roberts a Dr.Tudur Jones i Lerpwl oherwydd hyn. Roedden nhw yn dweud fod cynllun Lerpwl yn farbaraidd. Llwyddon nhw fynd i mewn i'r man ble roedd cyngor Lerpwl. Dechreuon nhw siarad am foddi Capel Celyn. Ond. dyna Bessie Bradock yn taro y bwrdd a gweiddi am dawelwch. Roedd Bessie yn ddynes ugain ston. Arweinydd cyngor Lerpwl oedd Bessie Bradock. Anfonodd hi am yr heddlu ond roedd y dynion wedi cyflawni beth roedden nhw eisiau; gorfodi sylw cyhoeddus ar gyfer y stori a'r mater.
more...
No comment yet.
Scooped by Luke Crowe
Scoop.it!

Pam boddi Tryweryn?

Pam boddi Tryweryn? | Boddi Tryweryn | Scoop.it
Ar ol i'r Ail Ryfel Byd orffen yn 1945, roedd prinder o ddwr yn ninas Lerpwl. Dechreuodd cyngor y ddinas edrych yng Nghymru am
ddyffrynnoedd i foddi. Roedd Lerpwl yn barod wedi cael caniatad i foddi Dyffrwyn Fyrnwy a pentref Llanddwyn. Yn gyntaf edrychodd Lerpwl ar Gwm Dolannog. Ond, doedd yn agos dim digon o ddwr yno. Wedyn fe benderfynwyd boddi Cwm Tryweryn. Yn 1955, cofnodwyd y ddogfen gyntaf yn hanes boddi Tryweryn. Roedd gan Cwm Tryweryn pob nodwedd meddai Dr.Harry Crann. Ei syniad a'i gynllun o oedd adeiladu argae.
more...
No comment yet.
Scooped by Luke Crowe
Scoop.it!

Boddi Capel Celyn

Boddi Capel Celyn | Boddi Tryweryn | Scoop.it
Roedd Lerpwl yn benderfynol o foddi Cwm Tryweryn. Roedd tua dwsin o ffermydd yng Nghapel Celyn yn ogystal a ysgol, capel a swyddfa bost. Roedd yr ysgol i gyd yn ymddwyn fel un teulu a roedd hi'n ysgol uniaith Gymraeg. Roedd tir amaethyddol yn cael ei foddi gan Lerpwl.Cafodd 770 acer o dir amathyddol ei foddi. Yn y diwedd cafodd y mater ei setlo yn San Steffan (Westminster). Gofynodd Lerpwl i'r llywodraeth; "Gawn ni foddi Capel Celyn?". Cytunodd y llywodraeth gyda Lerpwl ac ar ol y 'Bill' cafodd ei gytuno yn llwyr. Erbyn Awst y 1af roedd gan Lerpwl y hawl i foddi Cwm Tryweryn a Capel Celyn. Codwyd arwydd yn dweud:"This will be drinking water for the city of Liverpool and many other water supply authorities"-Liverpool Corporation Waterworks. Roedd gormod o ddwr yng Nghwm Tryweryn a felly byddai Lerpwl yn medru gwerthu y dwr a gwnaeud elw. Cymerodd hi 7 mlynedd i ddinistrio's cwm a adeiladu argae. Boddwyd Cwm Tryweryn a Capel Celyn rhwmg 1964 a 1965.
more...
No comment yet.
Scooped by Luke Crowe
Scoop.it!

Protestio

Protestio | Boddi Tryweryn | Scoop.it
Bu llawer o brotestiadau ar ol i drigolion Capel Celyn glywed am yr hyn oedd yn digwydd. Sefydlwyd pwyllgor amddiffyn yng Nghapel Celyn ond doedd dim grym gan y pwyllgor. Doedd dim syniad ganddyn nhw sut i brotestio. Roedd pobl o'r Almaen, U.D.A a'r Ariannin eisiau cadw Capel Celyn. Doedd gan drigolion Capel Celyn ddim cefnogaeth Cymru na cefnogaeth cynghorau. Roedd gan Capel Celyn gefnogaeth llywydd Plaid Cymru; Gwynfor Evans. Cynhaliwyd rali fawr yn y Bala yn ystod mis Medi 1956. Penderfynwyd fod Gwynfor Evans, Dafydd Roberts a Dr.Tudur Jones yn mynd i Lerpwl. Y tro nesaf aeth pawb i Lerpwl a nid oedd neb ar ol yng Nghapel Celyn. Roedd llawer o faneri yn dweud 'Na' ac un yn dweud- 'Please be a grea city not a big bully.' Roedd rhai pobl yn chwerthin ond roedd eraill yn gofyn beth oedd eu neges. Roedd Lerpwl yn eu gweld fel pobl fach di-amddiffyn. Nid oedd y Bala yn cytuno a pledleiswyd i beidio a helpu unrhyw brotest gan Capel Celyn. Roedd llawer o bobl yn dweud eu bod yn fwy o Saeson nag o Gymry.
more...
No comment yet.